5. Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl,
6. yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn,ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.
7. Ond y mae eraill sy'n simsan gan win,ac yn gwegian yn eu diod;y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod,ac wedi drysu gan win;y maent yn gwegian mewn diod,yn simsan yn eu gweledigaeth,ac yn baglu yn eu dyfarniad.
8. Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;nid oes unman heb fudreddi.
9. “Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,ac i bwy y mae am roi gwers?Ai rhai newydd eu diddyfnua'u tynnu oddi wrth y fron?
10. Y mae fel dysgu sillafu:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”
11. Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithry lleferir wrth y bobl hyn,
12. y rhai y dywedodd wrthynt,“Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig,dyma'r esmwythfa”—ond ni fynnent wrando.
13. Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt:“Mater o ddysgu sillafu yw hi:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl,a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.