3. Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr.Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
4. Gwywodd y ddaear a chrino,dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear.
5. Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr,am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfaua diddymu'r cyfamod tragwyddol.
6. Am hynny fe ysir y wlad gan felltith,a chosbir ei thrigolion;am hynny hefyd fe â'r trigolion yn llai a llai,ac ychydig fydd yn weddill.
7. Fe â'r gwin newydd yn wan,dihoena'r winwydden,a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.
8. Bydd sŵn llawen y tympanau yn peidio,a thrwst y gyfeddach yn distewi,a'r delyn hyfryd yn dawel.
9. Ni fydd yfed gwin yn sŵn canu;bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.
10. Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio,a phob tŷ ar glo rhag i neb fynd iddo.
11. Er galw am win yn yr heolydd,bydd diwedd ar bob cyfeddach,a diflanna llawenydd o'r wlad.
12. Anghyfanedd-dra yn unig a adewir yn y ddinas,a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.
13. Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd,fel ar adeg ysgwyd yr olewydda lloffa'r gwinwydd ar ôl y cynhaeaf.
14. Byddant yn codi llef a llawenhau,datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.