Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 22:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. ‘Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma,dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun,gan dorri dy fedd ar le uchela naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?

17. Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynotac yn dy hyrddio i lawr, ŵr cryf;

18. bydd yn dy chwyrlïo amgylch ogylch,ac yn dy daflu fel pêl ar faes agored, llydan.Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog,yn warth i dŷ dy feistr.

19. Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.’ ”

20. “Yn y dydd hwnnw byddaf yn galw am fy ngwas Eliacim fab Hilceia,

21. ac yn ei wisgo â'th fantell di, ac yn rhwymo dy wregys amdano, ac yn rhoi d'awdurdod di yn ei law. Bydd ef yn dad i drigolion Jerwsalem ac i bobl Jwda.

22. Gosodaf allwedd tŷ Dafydd ar ei ysgwydd; beth bynnag y bydd yn ei agor, ni fydd neb yn gallu ei gau, a beth bynnag y bydd yn ei gau, ni fydd neb yn gallu ei agor.

23. Byddaf yn ei osod yn sicr, fel hoelen yn ei lle; bydd yn orsedd ogoneddus yn nhŷ ei dad.

24. Ef fydd yn cynnal holl bwys y teulu, yr hil a'r epil, sef yr holl lestri mân, yn gwpanau ac yn gawgiau.

25. Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni.” Llefarodd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 22