Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 21:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal.”

8. Yna fe lefodd y gwyliwr,“Rwyf wedi sefyll ar y tŵr ar hyd y dydd, O Arglwydd,ac rwyf wedi cadw gwyliadwriaeth am nosau cyfan;

9. a dyma a ddaeth—gŵr mewn cerbyd gyda phâr o feirch,yn dweud, ‘Y mae wedi syrthio! Y mae Babilon wedi syrthio,a holl ddelwau ei duwiau wedi eu dryllio i'r llawr.’ ”

10. Chwi, fy eiddo a fu dan y dyrnwr ac a nithiwyd,mynegais i chwi yr hyn a glywaisgan ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel.

11. Yr oracl am Duma:Geilw un arnaf o Seir,“O wyliwr, beth am y nos?O wyliwr, beth am y nos?”

12. Atebodd y gwyliwr,“Daw bore, a nos hefyd.Os ydych am ofyn, gofynnwch,a dewch yn ôl eto.”

13. Yr oracl am Arabia:Yn llwyni Arabia y lletywch,chwi garafanau Dedanim;

14. dewch â diod i gyfarfod y rhai sychedig.Chwi drigolion Tema,ewch i gyfarfod y fföedigion â bara;

15. oherwydd ffoesant rhag y cleddyf, rhag y cleddyf noetha'r bwa anelog, a rhag pwys y frwydr.

16. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: “O fewn blwyddyn, yn ôl tymor gwas cyflog, daw diwedd ar holl ogoniant Cedar;

17. ychydig o saethwyr bwa o blith gwŷr grymus Cedar a fydd yn weddill.” Llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 21