Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 21:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oracl am anialwch y môr:Fel corwynt yn chwyrlïo dros y Negef,felly y daw dinistr o'r anialwch, o wlad ofnadwy.

2. Mynegwyd gweledigaeth greulon i mi:bradwr yn bradychu, anrheithiwr yn anrheithio.Cod, Elam! I'r gwarchae, Fediaid!Rhof daw ar bob griddfan a achoswyd.

3. Am hynny llanwyd fy lwynau â gofid,cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor;cythryblwyd fi wrth ei glywed,brawychais wrth ei weld.

4. Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu;trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.

5. Huliant fwrdd, taenant y lliain,y maent yn bwyta ac yfed.Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.

6. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf:“Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a wêl.

7. Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 21