Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 20:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Fel y mae fy ngwas Eseia wedi bod yn cerdded heb ddillad ac yn droednoeth am dair blynedd, yn arwydd a rhybudd yn erbyn yr Aifft ac Ethiopia,

4. felly y bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid yn gaeth ac Ethiopia i gaethglud, yn ifanc a hen, heb ddillad, yn droednoeth ac yn dinnoeth, yn gywilydd i'r Aifft.

5. Bydd pawb mewn arswyd a dryswch o achos Ethiopia, eu gobaith, a'r Aifft, eu balchder.

6. Bydd pawb sy'n trigo ar y traethau hyn yn y dydd hwnnw yn dweud, ‘Dyma sydd wedi digwydd i'r rhai yr oeddem ni'n gobeithio ynddynt ac yn dibynnu arnynt am help a gwaredigaeth o afael brenin Asyria. Sut felly y dihangwn?’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 20