Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 2:6-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl,oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain,a swynwyr fel y Philistiaid,ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.

7. Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur,ac nid oes terfyn ar eu trysorau;y mae eu gwlad yn llawn o feirch,ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;

8. y mae eu gwlad yn llawn o eilunod;ymgrymant i waith eu dwylo,i'r hyn a wnaeth eu bysedd.

9. Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth,ac y syrth pob un—paid â maddau iddynt.

10. Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwchrhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.

11. Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth,a gostyngir balchder pob un;yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefiryn y dydd hwnnw.

12. Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddyddyn erbyn pob un balch ac uchel,yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel,

13. yn erbyn holl gedrwydd Lebanon,sy'n uchel a dyrchafedig;yn erbyn holl dderi Basan,

14. yn erbyn yr holl fynyddoedd uchelac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;

15. yn erbyn pob tŵr uchelac yn erbyn pob magwyr gadarn;

16. yn erbyn holl longau Tarsisac yn erbyn yr holl gychod pleser.

17. Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth,ac fe syrth balchder y natur ddynol.Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefiryn y dydd hwnnw.

18. Â'r eilunod heibio i gyd.

19. Â pawb i holltau yn y creigiauac i dyllau yn y ddaear,rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.

20. Yn y dydd hwnnw bydd poblyn taflu eu heilunod ariana'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli,yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod;

21. ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiauac i holltau yn y clogwyni,rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 2