10. Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwchrhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.
11. Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth,a gostyngir balchder pob un;yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefiryn y dydd hwnnw.
12. Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddyddyn erbyn pob un balch ac uchel,yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel,
13. yn erbyn holl gedrwydd Lebanon,sy'n uchel a dyrchafedig;yn erbyn holl dderi Basan,
14. yn erbyn yr holl fynyddoedd uchelac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;
15. yn erbyn pob tŵr uchelac yn erbyn pob magwyr gadarn;
16. yn erbyn holl longau Tarsisac yn erbyn yr holl gychod pleser.
17. Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth,ac fe syrth balchder y natur ddynol.Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefiryn y dydd hwnnw.
18. Â'r eilunod heibio i gyd.
19. Â pawb i holltau yn y creigiauac i dyllau yn y ddaear,rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.