13. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd,dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf;eisteddaf ar y mynydd cynnullym mhellterau'r Gogledd.
14. Dringaf yn uwch na'r cymylau;fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”
15. Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd,i lawr i ddyfnderau'r pwll.
16. Bydd y rhai a'th wêl yn synnua phendroni drosot, a dweud,“Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu,ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
17. Ai hwn a droes y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoeddheb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?”
18. Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd,pob un yn ei le ei hun;
19. ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd,fel erthyl a ffieiddir;fe'th orchuddiwyd â chelaneddwedi eu trywanu â chleddyf,ac yn disgyn i waelodion y pwll,fel cyrff wedi eu sathru dan draed.
20. Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy,oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl.Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;
21. darparwch laddfa i'w blant,oherwydd drygioni eu hynafiaid,rhag iddynt godi ac etifeddu'r tira gorchuddio'r byd â dinasoedd.