Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 14:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu â hwy ac i lynu wrth deulu Jacob.

2. Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.

3. Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,

4. fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon:O fel y darfu'r gorthrymwrac y peidiodd ei orffwylltra!

5. Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiola gwialen y llywiawdwyr,

6. a fu'n taro'r bobloedd mewn dig,heb atal eu hergyd,ac yn sathru'r bobloedd mewn llida'u herlid yn ddi-baid.

7. Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch;ac y maent yn gorfoleddu ar gân.

8. Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn,a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud,“Er pan fwriwyd di ar dy orweddni chododd neb i'n torri ni i lawr.”

9. Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddii'th dderbyn pan gyrhaeddi;bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 14