Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 13:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oracl am Fabilon; yr hyn a welodd Eseia fab Amos.

2. Dyrchafwch faner ar fynydd moel,codwch lef tuag atynt;amneidiwch â'ch dwyloiddynt ddod i mewn i byrth y pendefigion.

3. Gorchmynnais i'r rhai a gysegrais;ie, gelwais ar fy ngwŷr cedyrn i weithredu fy nicter,y rhai sy'n falch o'm gorchest.

4. Clywch, sŵn tyrfa ar y mynyddoedd,fel pobloedd heb rifedi!Clywch, dwndwr teyrnasoedd,fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnully llu ar gyfer brwydr.

5. Dônt o wlad bell,o eithaf y nefoedd—offer llid yr ARGLWYDD—i ddifa'r holl dir.

6. Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.

7. Am hynny fe laesa'r holl ddwylo,a bydd pob calon yn toddi gan fraw.

8. Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt;byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor.Edrychant yn syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 13