Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff,a than ei ogoniant fe gyfyd twymynfel llosgiad tân.

17. Bydd Goleuni Israel yn dâna'i Un Sanctaidd yn fflam;fe lysg ac fe ysaei ddrain a'i fieri mewn un dydd.

18. Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir,fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.

19. A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brinnes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.

20. Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhÅ· Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.

21. Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob,at Dduw sydd yn gadarn.

22. Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y môr,gweddill yn unig fydd yn dychwel.Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.

23. Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn gwneud dinistr terfynolyng nghanol yr holl ddaear.

24. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10