Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 1:10-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom,gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra.

11. “Beth i mi yw eich aml aberthau?” medd yr ARGLWYDD.“Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid;ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod.

12. Pan ddewch i ymddangos o'm blaen,pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau?

13. Peidiwch â chyflwyno rhagor o offrymau ofer;y mae arogldarth yn ffiaidd i mi.Gŵyl y newydd-loer, Sabothau a galw cymanfa—ni allaf oddef drygioni a chynulliad sanctaidd.

14. Y mae'n gas gan f'enaid eich newydd-loerau a'ch gwyliau sefydlog;aethant yn faich arnaf, a blinais eu dwyn.

15. Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi,trof fy llygaid ymaith;er i chwi amlhau eich ymbil,ni fynnaf wrando arnoch.Y mae eich dwylo'n llawn gwaed;

16. ymolchwch, ymlanhewch.Ewch â'ch gweithredoedd drwg o'm golwg;

17. peidiwch â gwneud drwg, dysgwch wneud daioni.Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig,amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw.

18. “Yn awr, ynteu, ymresymwn â'n gilydd,” medd yr ARGLWYDD.“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad,fe fyddant cyn wynned â'r eira;pe baent cyn goched â phorffor,fe ânt fel gwlân.

19. Os bodlonwch i ufuddhau,cewch fwyta o ddaioni'r tir;

20. ond os gwrthodwch, a gwrthryfela,fe'ch ysir â chleddyf.”Genau'r ARGLWYDD a'i llefarodd.

21. O fel yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain!Bu'n llawn o farn, a thrigai cyfiawnder ynddi,ond bellach llofruddion.

22. Aeth dy arian yn sorod,a'th win yn gymysg â dŵr.

23. Y mae dy arweinwyr yn wrthryfelwyrac yn bartneriaid lladron;y maent i gyd yn caru cildwrnac yn chwilio am wobrau;nid ydynt yn amddiffyn yr amddifad,ac ni roddant sylw i gŵyn y weddw.

24. Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel,“Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino,a dialaf ar fy ngelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 1