1. Dyma'r weledigaeth a ddaeth i Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
2. Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear!Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD:“Megais blant a'u meithrin,ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn.
3. Y mae'r ych yn adnabod y sawl a'i piau,a'r asyn breseb ei berchennog;ond nid yw Israel yn adnabod,ac nid yw fy mhobl yn deall.”
4. O genhedlaeth bechadurus,pobl dan faich o ddrygioni,epil drwgweithredwyr,plant anrheithwyr!Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD,wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn.
5. I ba ddiben y trewir chwi mwyach,gan eich bod yn parhau i wrthgilio?Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd,a'ch holl galon yn ysig;
6. o'r corun i'r sawdl nid oes un man yn iach,dim ond archoll a chlais a dolur crawnllydheb eu gwasgu na'u rhwymo na'u hesmwytho ag olew.
7. Y mae eich gwlad yn anrhaith, eich dinasoedd yn ulw,a dieithriaid yn ysu eich tir yn eich gŵydd;y mae'n ddiffaith fel Sodom ar ôl ei dinistrio.
8. Gadawyd Seionfel caban mewn gwinllan,fel cwt mewn gardd cucumerau,fel dinas dan warchae.
9. Oni bai i ARGLWYDD y Lluoedd adael i ni weddill bychan,byddem fel Sodom, a'r un ffunud â Gomorra.
10. Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom,gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra.
11. “Beth i mi yw eich aml aberthau?” medd yr ARGLWYDD.“Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid;ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod.
12. Pan ddewch i ymddangos o'm blaen,pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau?
13. Peidiwch â chyflwyno rhagor o offrymau ofer;y mae arogldarth yn ffiaidd i mi.Gŵyl y newydd-loer, Sabothau a galw cymanfa—ni allaf oddef drygioni a chynulliad sanctaidd.
14. Y mae'n gas gan f'enaid eich newydd-loerau a'ch gwyliau sefydlog;aethant yn faich arnaf, a blinais eu dwyn.