Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 5:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu hymlid â'r cleddyf.

13. Yna fe dderfydd fy nig, ac fe dawela fy llid yn eu herbyn, a byddaf fodlon; pan fydd fy llid yn eu herbyn wedi darfod, byddant yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sydd wedi llefaru yn fy eiddigedd.

14. Rhoddaf di'n anrhaith ac yn warth ymysg y cenhedloedd o'th amgylch, yng ngŵydd pawb sy'n mynd heibio.

15. Byddi'n warth ac yn watwar, yn wers ac yn fraw i'r cenhedloedd o'th amgylch, pan wnaf farn â thi mewn dig ac mewn llid ac â cherydd miniog. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.

16. Pan fyddaf yn saethu atat â'm saethau marwol a dinistriol o newyn, byddaf yn saethu i'th ddinistrio; dygaf ragor o newyn arnat a thorraf ymaith dy gynhaliaeth o fara.

17. Anfonaf arnat newyn a bwystfilod gwylltion, ac fe'th wnânt yn ddi-blant; bydd haint a thywallt gwaed yn ysgubo drosot, a gwnaf i gleddyf ddod arnat. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 5