Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 5:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt.

2. Llosga draean ohono mewn tân yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro â'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i hymlidiaf â chleddyf.

3. Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg.

4. Cymer ychydig ohono eto a'i daflu i ganol tân a'i losgi; bydd tân yn lledu ohono i holl dŷ Israel.

5. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch,

6. ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.

7. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio â dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch,

8. felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn. Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd;

9. oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto.

10. Am hynny, yn dy ganol di bydd rhieni yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu rhieni; gwnaf farn â thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot.

11. Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr â'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn dy ddarostwng, ac ni fyddaf yn tosturio, nac yn trugarhau.

12. Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu hymlid â'r cleddyf.

13. Yna fe dderfydd fy nig, ac fe dawela fy llid yn eu herbyn, a byddaf fodlon; pan fydd fy llid yn eu herbyn wedi darfod, byddant yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sydd wedi llefaru yn fy eiddigedd.

14. Rhoddaf di'n anrhaith ac yn warth ymysg y cenhedloedd o'th amgylch, yng ngŵydd pawb sy'n mynd heibio.

15. Byddi'n warth ac yn watwar, yn wers ac yn fraw i'r cenhedloedd o'th amgylch, pan wnaf farn â thi mewn dig ac mewn llid ac â cherydd miniog. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.

16. Pan fyddaf yn saethu atat â'm saethau marwol a dinistriol o newyn, byddaf yn saethu i'th ddinistrio; dygaf ragor o newyn arnat a thorraf ymaith dy gynhaliaeth o fara.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 5