4. Ar derfyn Nafftali, o ddwyrain i orllewin, bydd Manasse: un gyfran.
5. Ar derfyn Manasse, o ddwyrain i orllewin, bydd Effraim: un gyfran.
6. Ar derfyn Effraim, o ddwyrain i orllewin, bydd Reuben: un gyfran.
7. Ar derfyn Reuben, o ddwyrain i orllewin, bydd Jwda: un gyfran.
8. Ar derfyn Jwda, o ddwyrain i orllewin, bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig; bydd yn bum mil ar hugain o gufyddau o led, a bydd yn ymestyn o ddwyrain i orllewin yn gyfartal â chyfran un o'r llwythau; a bydd y cysegr yn ei chanol.
9. Bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig i'r ARGLWYDD yn bum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led.
10. Dyma fydd yn gyfran gysegredig i'r offeiriaid: cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ar ochr y gogledd, deng mil o led ar ochr y gorllewin, deng mil o led ar ochr y dwyrain, a phum mil ar hugain o hyd ar ochr y de; ac yn y canol bydd cysegr yr ARGLWYDD.
11. Bydd y gyfran hon i'r offeiriaid cysegredig o deulu Sadoc a fu'n ffyddlon i'm gwasanaethu, heb fynd ar gyfeiliorn fel y gwnaeth y Lefiaid pan aeth yr Israeliaid ar grwydr.
12. Bydd yn gyfran arbennig iddynt hwy o'r rhan gysegredig o'r tir; bydd yn gyfran gysegredig yn terfynu ar gyfran y Lefiaid.
13. Dyma fydd i'r Lefiaid: cyfran o dir pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led, yn rhedeg yn gyfochrog â therfyn yr offeiriaid; pum mil ar hugain o gufyddau fydd ei hyd cyfan, a'i led yn ddeng mil o gufyddau.
14. Ni chânt werthu dim ohono, na'i gyfnewid; ni ellir ei drosglwyddo, oherwydd dyma'r gorau o'r tir, ac y mae'n gysegredig i'r ARGLWYDD.
15. “Bydd y gweddill, sef pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o hyd, ar gyfer defnydd cyffredin y ddinas, ar gyfer tai a phorfeydd. Bydd y ddinas yn ei ganol,
16. a'i mesuriadau fel a ganlyn: ar ochr y gogledd, pedair mil a hanner o gufyddau; ar ochr y de, pedair mil a hanner; ar ochr y dwyrain, pedair mil a hanner, ac ar ochr y gorllewin, pedair mil a hanner.
17. Bydd y tir pori ar gyfer y ddinas yn ddau gan cufydd a hanner ar ochr y gogledd, dau gant a hanner ar ochr y de, dau gant a hanner ar ochr y dwyrain, a dau gant a hanner ar ochr y gorllewin.