Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 48:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. “Bydd y gweddill, sef pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o hyd, ar gyfer defnydd cyffredin y ddinas, ar gyfer tai a phorfeydd. Bydd y ddinas yn ei ganol,

16. a'i mesuriadau fel a ganlyn: ar ochr y gogledd, pedair mil a hanner o gufyddau; ar ochr y de, pedair mil a hanner; ar ochr y dwyrain, pedair mil a hanner, ac ar ochr y gorllewin, pedair mil a hanner.

17. Bydd y tir pori ar gyfer y ddinas yn ddau gan cufydd a hanner ar ochr y gogledd, dau gant a hanner ar ochr y de, dau gant a hanner ar ochr y dwyrain, a dau gant a hanner ar ochr y gorllewin.

18. Bydd y gweddill yn rhedeg yn gyfochrog â therfyn y gyfran gysegredig, a bydd o'r un hyd â hi, sef deng mil o gufyddau ar ochr y dwyrain a deng mil ar ochr y gorllewin. Bydd ei gynnyrch yn fwyd i weithwyr y ddinas.

19. O holl lwythau Israel y daw gweithwyr y ddinas a fydd yn ei drin.

20. Bydd y gyfran gyfan yn sgwâr o bum mil ar hugain o gufyddau ar bob ochr; fe'i neilltuir yn gyfran gysegredig ynghyd ag eiddo'r ddinas.

21. “Bydd y gweddill a adewir oddeutu'r gyfran gysegredig ac eiddo'r ddinas yn perthyn i'r tywysog. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain ar un ochr, ac i'r gorllewin ar yr ochr arall i'r gyfran gysegredig o bum mil ar hugain o gufyddau; bydd yn rhedeg yn gyfochrog â chyfrannau'r llwythau, ac yn perthyn i'r tywysog; bydd y gyfran gysegredig a chysegr y deml yn y canol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 48