Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 47:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Bydd pysgotwyr yn sefyll ar y lan, ac o En-gedi hyd En-eglaim bydd lle i daenu rhwydau; bydd llawer math o bysgod, fel pysgod y Môr Mawr.

11. Ni fydd y rhosydd a'r corsydd yn cael eu puro, ond fe'u gadewir ar gyfer halen.

12. Ar y glannau oddeutu'r afon fe dyf coed ffrwythau o bob math, ac ni fydd eu dail yn gwywo na'u ffrwyth yn methu; ffrwythant bob mis, oherwydd bydd y dyfroedd o'r cysegr yn llifo atynt, a bydd eu ffrwyth yn fwyd a'u dail yn iechyd.”

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Dyma'r terfynau ar gyfer rhannu'r wlad yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel, gyda dwy gyfran i Joseff.

14. Yr wyt i'w rhannu'n gyfartal rhyngddynt; tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid, ac fe ddaw'r wlad hon yn etifeddiaeth i chwi.

15. “Dyma fydd terfyn y wlad: ar ochr y gogledd bydd yn rhedeg o'r Môr Mawr ar hyd ffordd Hethlon heibio i Lebo-hamath i Sedad,

16. Berotha a Sibraim, sydd ar y terfyn rhwng Damascus a Hamath, a chyn belled â Haser-hatticon, sydd ar derfyn Hauran.

17. Bydd y terfyn yn ymestyn o'r môr at Hasar-enan ar hyd terfyn gogleddol Damascus, gyda therfyn Hamath i'r gogledd. Dyma fydd terfyn y gogledd.

18. “Ar ochr y dwyrain bydd yn rhedeg rhwng Hauran a Damascus, ar hyd yr Iorddonen rhwng Gilead a thir Israel, ac at fôr y dwyrain hyd at Tamar. Dyma fydd terfyn y dwyrain.

19. “Ar ochr y de bydd yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades ac ar hyd yr afon at y Môr Mawr. Dyma fydd terfyn y de.

20. “Ar ochr y gorllewin, y Môr Mawr fydd y terfyn nes dod gyferbyn â Lebo-hamath. Dyma fydd terfyn y gorllewin.

21. “Rhannwch y wlad hon rhyngoch yn ôl llwythau Israel,

22. a'i neilltuo'n etifeddiaeth i chwi ac i'r estroniaid sy'n byw yn eich mysg ac yn magu plant; byddant hwythau yn eich mysg fel rhai o frodorion Israel, ac fel chwithau byddant yn cael etifeddiaeth ymhlith llwythau Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 47