Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 46:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Y mae'r tywysog i ddod i mewn trwy gyntedd y porth, a sefyll ger pyst y porth; ac y mae'r offeiriaid i aberthu ei boethoffrwm a'i heddoffrymau. Y mae i addoli wrth riniog y porth ac yna mynd allan, ond ni chaeir y porth hyd fin nos.

3. Ar y Sabothau a'r newydd-loerau y mae pobl y wlad i addoli gerbron yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r porth hwn.

4. Bydd y poethoffrwm a ddygir gan y tywysog i'r ARGLWYDD ar y Saboth yn cynnwys chwe oen di-nam a hwrdd di-nam.

5. Bydd effa o fwydoffrwm gyda'r hwrdd, ond gyda'r ŵyn bydd yn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa.

6. Ar ddiwrnod y newydd-loer y mae i offrymu bustach ifanc, chwe oen a hwrdd, y cyfan yn ddi-nam.

7. Y mae i ddarparu effa o fwydoffrwm gyda'r bustach, effa gyda'r hwrdd, a chyda'r ŵyn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa.

8. Pan ddaw'r tywysog i mewn, y mae i ddod trwy gyntedd y porth, a mynd allan yr un ffordd.

9. “ ‘Pan fydd pobl y wlad yn dod o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau penodedig, y mae'r sawl sy'n dod i mewn i addoli trwy borth y gogledd i fynd allan trwy borth y de, a'r sawl sy'n dod i mewn trwy borth y de i fynd allan trwy borth y gogledd. Ni chaiff neb ymadael trwy'r porth y daeth i mewn trwyddo, ond mynd allan trwy'r porth gyferbyn.

10. Bydd y tywysog hefyd yn eu plith, yn mynd i mewn pan ânt hwy i mewn, ac yn mynd allan pan ânt hwy allan.

11. “ ‘Ar y gwyliau a'r adegau penodedig, bydd effa o fwydoffrwm gyda bustach, effa gyda hwrdd, ond gyda'r ŵyn gymaint ag a ddymunir; bydd hin o olew am bob effa.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 46