Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:6-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Dywed wrth dŷ gwrthryfelgar Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon ar dy holl ffieidd-dra, dŷ Israel!

7. Ychwanegaist at dy holl ffieidd-dra trwy ddod ag estroniaid, dienwaededig o ran calon a chnawd, i mewn i'm cysegr a'i halogi; tra oeddit ti'n offrymu bwyd, gyda'r braster a'r gwaed, yr oeddent hwy'n torri fy nghyfamod.

8. Yn lle gofalu am fy mhethau sanctaidd dy hunan, fe roddaist y cyfrifoldeb ar y bobl hyn i ofalu am fy nghysegr.

9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid yw'r un estron dienwaededig o ran calon a chnawd i ddod i mewn i'm cysegr, hyd yn oed yr estroniaid sy'n byw ymhlith pobl Israel.

10. Bydd y Lefiaid, a ymbellhaodd oddi wrthyf pan aeth Israel ar gyfeiliorn, a chrwydro ar ôl eu heilunod, yn gorfod dwyn eu cosb.

11. Byddant yn gwasanaethu yn fy nghysegr trwy ofalu am byrth y deml, ac yn gweini yno; byddant yn lladd y poethoffrwm a'r aberth i'r bobl, ac yn gweini ar y bobl ac yn eu gwasanaethu.

12. Ond oherwydd iddynt eu gwasanaethu o flaen eu heilunod, a gwneud i dŷ Israel syrthio i bechu, fe dyngais y bydd yn rhaid iddynt ddwyn eu cosb, medd yr Arglwydd DDUW.

13. Ni chânt ddod yn agos ataf i'm gwasanaethu fel offeiriaid, na dynesu at yr un o'm pethau sanctaidd na'm hoffrymau sancteiddiaf; rhaid iddynt ddwyn gwarth am y ffieidd-dra a wnaethant.

14. Eto rhof arnynt ddyletswydd i ofalu am y deml, i fod yn gyfrifol am yr holl wasanaeth a'r holl waith ynddi.

15. “ ‘Ond bydd yr offeiriaid sy'n Lefiaid o dylwyth Sadoc, ac a fu'n gofalu am fy nghysegr pan grwydrodd pobl Israel oddi wrthyf, yn dynesu ataf i'm gwasanaethu; byddant yn sefyll o'm blaen i offrymu'r braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd DDUW.

16. Hwy fydd yn dod i mewn i'm cysegr, a hwy fydd yn dynesu at fy mwrdd i'm gwasanaethu'n ffyddlon.

17. Pan fyddant yn dod trwy byrth y cyntedd mewnol, y maent i wisgo dillad o liain; nid ydynt i roi unrhyw ddillad o wlân amdanynt pan fyddant yn gwasanaethu ym mhyrth y cyntedd mewnol neu i mewn yn y deml.

18. Byddant yn gwisgo gorchudd o liain am eu pennau, a gwregys o liain am eu llwynau; nid ydynt i wisgo dim a wna iddynt chwysu.

19. Pan fyddant yn mynd i'r cyntedd allanol, lle mae'r bobl, y maent i ddiosg y dillad a fu ganddynt yn gwasanaethu, a'u gadael yn yr ystafelloedd cysegredig; rhoddant wisgoedd eraill amdanynt, rhag i'w dillad drosglwyddo i'r bobl yr hyn sy'n sanctaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44