Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:19-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Pan fyddant yn mynd i'r cyntedd allanol, lle mae'r bobl, y maent i ddiosg y dillad a fu ganddynt yn gwasanaethu, a'u gadael yn yr ystafelloedd cysegredig; rhoddant wisgoedd eraill amdanynt, rhag i'w dillad drosglwyddo i'r bobl yr hyn sy'n sanctaidd.

20. Nid ydynt i eillio'u pennau, na gadael i'w gwallt dyfu'n hir, ond y maent i dorri eu gwalltiau.

21. Nid yw'r un offeiriad i yfed gwin pan fydd yn mynd i'r cyntedd mewnol.

22. Nid ydynt i briodi â gweddwon nac â gwragedd a ysgarwyd, ond gallant briodi gwyryfon o dylwyth tŷ Israel, neu weddwon i offeiriaid.

23. Y maent i ddysgu i'm pobl y gwahaniaeth rhwng sanctaidd a chyffredin, a dangos iddynt sut i wahaniaethu rhwng glân ac aflan.

24. Mewn achos o ymrafael, y mae'r offeiriaid i weithredu fel barnwyr, a barnu yn ôl fy nghyfreithiau. Y maent i gadw fy neddfau a'm hordeiniadau ar fy holl wyliau penodedig, a chadw fy Sabothau'n sanctaidd.

25. Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun trwy fynd yn agos at berson marw, ond os yw'r un marw yn dad neu'n fam, yn fab neu'n ferch, yn frawd neu'n chwaer ddibriod iddo, fe gaiff ei halogi ei hun.

26. Ar ôl iddo'i lanhau ei hun, y mae i aros am saith diwrnod.

27. A'r diwrnod y bydd yn mynd i mewn i gyntedd mewnol y cysegr i wasanaethu, y mae i offrymu ei aberth dros bechod, medd yr Arglwydd DDUW.

28. “ ‘Ni fydd ganddynt etifeddiaeth yn Israel, ond myfi fydd eu hetifeddiaeth hwy; paid â rhoi iddynt unrhyw eiddo yn Israel, oherwydd myfi fydd eu heiddo hwy.

29. Byddant yn bwyta'r bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd, a'u heiddo hwy fydd pob diofryd yn Israel.

30. Eiddo'r offeiriaid hefyd fydd y gorau o'r holl flaenffrwyth ac o'ch holl offrymau arbennig. Rhowch i'r offeiriaid hefyd y gyfran gyntaf o'ch blawd mâl, er mwyn i fendith fod ar eich tai.

31. Nid yw'r offeiriaid i fwyta dim a fu farw neu a larpiwyd, boed aderyn neu anifail.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44