Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna aeth y dyn â mi'n ôl at borth nesaf allan y cysegr, a oedd yn wynebu tua'r dwyrain; ac yr oedd wedi ei gau.

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Y mae'r porth hwn i fod ar gau; nid oes neb i'w agor nac i fynd trwyddo; y mae i fod ar gau oherwydd i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ddod trwyddo.

3. Y tywysog yn unig a gaiff eistedd yn y porth i fwyta ym mhresenoldeb yr ARGLWYDD; daw ef i mewn trwy gyntedd y porth ac ymadael yr un ffordd.”

4. Yna aeth â mi ar hyd ffordd porth y gogledd at flaen y deml; a phan edrychais, gwelais fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml, a syrthiais ar fy wyneb.

5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, dal sylw, edrych yn ofalus, a gwrando'n astud ar y cyfan a ddywedaf wrthyt ynglŷn â holl ddeddfau'r deml a'i chyfreithiau. Rho sylw i fynedfa'r deml ac i holl allanfeydd y cysegr.

6. Dywed wrth dŷ gwrthryfelgar Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon ar dy holl ffieidd-dra, dŷ Israel!

7. Ychwanegaist at dy holl ffieidd-dra trwy ddod ag estroniaid, dienwaededig o ran calon a chnawd, i mewn i'm cysegr a'i halogi; tra oeddit ti'n offrymu bwyd, gyda'r braster a'r gwaed, yr oeddent hwy'n torri fy nghyfamod.

8. Yn lle gofalu am fy mhethau sanctaidd dy hunan, fe roddaist y cyfrifoldeb ar y bobl hyn i ofalu am fy nghysegr.

9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid yw'r un estron dienwaededig o ran calon a chnawd i ddod i mewn i'm cysegr, hyd yn oed yr estroniaid sy'n byw ymhlith pobl Israel.

10. Bydd y Lefiaid, a ymbellhaodd oddi wrthyf pan aeth Israel ar gyfeiliorn, a chrwydro ar ôl eu heilunod, yn gorfod dwyn eu cosb.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44