Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 43:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Bydd aelwyd yr allor yn sgwâr, deuddeg cufydd o hyd a deuddeg cufydd o led.

17. Bydd y silff uchaf hefyd yn sgwâr, yn bedwar cufydd ar ddeg o hyd a phedwar cufydd ar ddeg o led, gyda chantel o hanner cufydd, a gwaelod o gufydd oddi amgylch. Bydd grisiau'r allor yn wynebu tua'r dwyrain.”

18. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma'r deddfau ynglŷn ag aberthu poethoffrymau a thaenellu gwaed ar yr allor, pan fydd wedi ei hadeiladu:

19. yn aberth dros bechod byddi'n rhoi bustach ifanc i'r offeiriaid sy'n Lefiaid o deulu Sadoc, oherwydd hwy fydd yn dynesu ataf i'm gwasanaethu, medd yr Arglwydd DDUW.

20. Byddi'n cymryd o'i waed ac yn ei roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y silff uchaf, ac ar y cantel oddi amgylch; felly byddi'n puro'r allor ac yn gwneud cymod drosti.

21. Byddi'n cymryd bustach yr aberth dros bechod ac yn ei losgi yn y lle penodol yn y deml, y tu allan i'r cysegr.

22. Ar yr ail ddiwrnod yr wyt i offrymu bwch gafr di-nam yn aberth dros bechod, a phuro'r allor, fel y purwyd hi â'r bustach.

23. Wedi iti orffen puro'r allor, yr wyt i aberthu bustach ifanc di-nam, a hwrdd di-nam o'r praidd.

24. Offryma hwy i'r ARGLWYDD, a bydded i'r offeiriaid daenellu halen drostynt a'u haberthu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

25. Am saith diwrnod tyrd â bwch gafr bob dydd yn aberth dros bechod; tyrd hefyd â bustach ifanc a hwrdd o'r praidd, y ddau yn ddi-nam.

26. Am saith diwrnod byddant yn gwneud cymod dros yr allor ac yn ei glanhau, ac felly'n ei chysegru.

27. Ar ddiwedd y dyddiau hyn, sef o'r wythfed diwrnod ymlaen, bydd yr offeiriaid yn aberthu eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau ar yr allor; ac yna fe'ch derbyniaf, medd yr Arglwydd DDUW.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 43