Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:33-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

34. Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

35. Yna aeth â mi at borth y gogledd, a'i fesur; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill;

36. felly hefyd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd, ac yr oedd ffenestri o'i amgylch. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

37. Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

38. Yng nghyntedd y porth yr oedd ystafell ac iddi ddrws, ac yno y golchid y poethoffrwm.

39. Yng nghyntedd y porth yr oedd hefyd ddau fwrdd o boptu, ac arnynt y lleddid y poethoffrwm, yr offrwm dros bechod a'r offrwm dros gamwedd.

40. Yng nghyntedd nesaf allan y porth, wrth ymyl y grisiau oedd yn arwain i borth y gogledd, yr oedd dau fwrdd, a'r ochr arall i'r grisiau hefyd ddau fwrdd.

41. Yr oedd pedwar o fyrddau ar un ochr i'r porth, a phedwar ar yr ochr arall, wyth i gyd; ac arnynt y lleddid yr aberthau.

42. Yr oedd hefyd bedwar bwrdd o feini nadd ar gyfer y poethoffrwm, pob un yn gufydd a hanner o hyd, yn gufydd a hanner o led ac yn gufydd o uchder; arnynt hwy y rhoddid yr offer ar gyfer lladd y poethoffrwm a'r aberthau eraill.

43. Ar y muriau oddi amgylch yr oedd bachau dwbl, dyrnfedd o hyd; yr oedd y byrddau ar gyfer cig yr offrwm.

44. Y tu allan i'r porth nesaf i mewn, a'r tu mewn i'r cyntedd nesaf i mewn, yr oedd dwy ystafell, un ger porth y gogledd ac yn wynebu'r de, ac un ger porth y de ac yn wynebu'r gogledd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40