Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Tithau, fab dyn, cymer briddlech a'i gosod o'th flaen, a darlunia arni ddinas Jerwsalem.

2. Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.

3. Yna cymer badell haearn a'i rhoi fel mur o haearn rhyngot ti a'r ddinas, a thro dy wyneb tuag ati; a bydd dan warchae, a thithau'n ymosod arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4. “Yna gorwedd ar dy ochr chwith, a gosod ddrygioni tŷ Israel arni; byddi'n cario eu drygioni am nifer y dyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

5. Yr wyf wedi pennu ar dy gyfer yr un nifer o ddyddiau ag o flynyddoedd eu drygioni, sef tri chant naw deg o ddyddiau, iti gario drygioni tŷ Israel.

6. Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia ddrygioni tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

7. Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4