Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 38:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn dod yn erbyn tir Israel, fe gwyd dicter fy llid, medd yr Arglwydd DDUW.

19. Yn fy eiddigedd a gwres fy nig cyhoeddaf y bydd, y diwrnod hwnnw, ddaeargryn mawr yng ngwlad Israel.

20. Bydd popeth yn crynu o'm blaen—pysgod y môr, adar yr awyr, yr anifeiliaid gwylltion, holl ymlusgiaid y tir, a phob meidrolyn ar wyneb y ddaear; dymchwelir y mynyddoedd, syrth y creigiau, a bwrir pob mur i'r llawr.

21. Galwaf am bob math o ddychryn yn erbyn Gog, medd yr Arglwydd DDUW. Bydd cleddyf pob un yn erbyn ei gymydog;

22. dof i farn yn ei erbyn â haint ac â gwaed; tywalltaf lawogydd trymion, cenllysg, tân a brwmstan arno ef a'i fyddin a'r bobloedd lawer sydd gydag ef.

23. Amlygaf fy mawredd a'm sancteiddrwydd, a gwnaf fy hun yn wybyddus yng ngolwg llawer o genhedloedd. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 38