15. Fe ddoi o'th le ym mhellterau'r gogledd, ti a phobloedd lawer gyda thi, i gyd yn marchogaeth ar geffylau, yn llu mawr ac yn fyddin gref.
16. Doi i fyny yn erbyn fy mhobl Israel fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear. Mewn dyddiau i ddod, O Gog, fe'th ddygaf yn erbyn fy nhir, er mwyn i'r cenhedloedd f'adnabod pan amlygaf fy sancteiddrwydd trwoch chwi yn eu gŵydd.
17. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Onid ti yw'r un y dywedais amdano yn y dyddiau gynt trwy fy ngweision, proffwydi Israel, a fu yr amser hwnnw yn proffwydo am flynyddoedd y dygwn di yn eu herbyn?
18. Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn dod yn erbyn tir Israel, fe gwyd dicter fy llid, medd yr Arglwydd DDUW.
19. Yn fy eiddigedd a gwres fy nig cyhoeddaf y bydd, y diwrnod hwnnw, ddaeargryn mawr yng ngwlad Israel.
20. Bydd popeth yn crynu o'm blaen—pysgod y môr, adar yr awyr, yr anifeiliaid gwylltion, holl ymlusgiaid y tir, a phob meidrolyn ar wyneb y ddaear; dymchwelir y mynyddoedd, syrth y creigiau, a bwrir pob mur i'r llawr.
21. Galwaf am bob math o ddychryn yn erbyn Gog, medd yr Arglwydd DDUW. Bydd cleddyf pob un yn erbyn ei gymydog;
22. dof i farn yn ei erbyn â haint ac â gwaed; tywalltaf lawogydd trymion, cenllysg, tân a brwmstan arno ef a'i fyddin a'r bobloedd lawer sydd gydag ef.
23. Amlygaf fy mawredd a'm sancteiddrwydd, a gwnaf fy hun yn wybyddus yng ngolwg llawer o genhedloedd. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’