1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Gog yn nhir Magog, prif dywysog Mesach a Tubal; proffwyda yn ei erbyn,
3. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal;
4. byddaf yn dy droi'n ôl, yn rhoi bachau yn dy safn ac yn dy dynnu allan—ti, a'th holl fyddin, yn feirch a marchogion, y cyfan ohonynt yn llu mawr arfog, â bwcled a tharian, a phob un yn chwifio'i gleddyf.
5. Bydd Persia, Ethiopia a Libya gyda hwy, oll â tharianau a helmedau;
6. Gomer hefyd a'i holl fyddin, a Beth-togarma o bellterau'r gogledd a'i holl fyddin; bydd pobloedd lawer gyda thi.
7. “ ‘Bydd barod ac ymbaratoa, ti a'r holl fyddinoedd sydd o'th amgylch, a byddi'n eu gwarchod.