Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 38:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Gog yn nhir Magog, prif dywysog Mesach a Tubal; proffwyda yn ei erbyn,

3. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal;

4. byddaf yn dy droi'n ôl, yn rhoi bachau yn dy safn ac yn dy dynnu allan—ti, a'th holl fyddin, yn feirch a marchogion, y cyfan ohonynt yn llu mawr arfog, â bwcled a tharian, a phob un yn chwifio'i gleddyf.

5. Bydd Persia, Ethiopia a Libya gyda hwy, oll â tharianau a helmedau;

6. Gomer hefyd a'i holl fyddin, a Beth-togarma o bellterau'r gogledd a'i holl fyddin; bydd pobloedd lawer gyda thi.

7. “ ‘Bydd barod ac ymbaratoa, ti a'r holl fyddinoedd sydd o'th amgylch, a byddi'n eu gwarchod.

8. Ar ôl dyddiau lawer fe'th gynullir, ac mewn blynyddoedd i ddod byddi'n mynd yn erbyn gwlad sydd wedi ei hadfer ar ôl rhyfel, a'i phobl wedi eu casglu o blith llawer o genhedloedd ar fynyddoedd Israel, lle bu diffeithwch cyhyd; fe'u dygwyd allan o blith y bobloedd, ac yn awr y maent i gyd yn byw'n ddiogel.

9. Byddi di a'th holl fyddin, a phobloedd lawer gyda thi, yn mynd i fyny ac yn ymdaith fel storm; byddi fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear.

10. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw fe ddaw syniadau i'th feddwl, a byddi'n dyfeisio cynllun drygionus,

11. ac yn dweud, “Af i fyny yn erbyn gwlad o bentrefi diamddiffyn, ac ymosod ar bobl heddychol sy'n byw'n ddiogel—pob un ohonynt yn byw heb furiau na barrau na phyrth.

12. Fe ysbeiliaf ac fe anrheithiaf; trof fy llaw yn erbyn yr adfeilion a gyfanheddwyd, ac yn erbyn y bobl a gasglwyd o blith y cenhedloedd ac sydd yn meddu da ac eiddo ac yn byw yng nghanol y wlad.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 38