Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 37:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau,

21. a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n cymryd yr Israeliaid o blith y cenhedloedd lle'r aethant; fe'u casglaf o bob man, a mynd â hwy i'w gwlad eu hunain.

22. Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas.

23. Ni fyddant yn eu halogi eu hunain eto â'u heilunod, eu pethau atgas a'u holl droseddau, oherwydd byddaf yn eu gwaredu o'u holl wrthgilio, a fu'n ddrygioni ynddynt, ac fe'u glanhaf; byddant hwy'n bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.

24. “ ‘Fy ngwas Dafydd a fydd yn frenin arnynt, a bydd un bugail drostynt i gyd. Byddant yn dilyn fy nghyfreithiau ac yn gofalu cadw fy neddfau.

25. Byddant yn byw yn y wlad a roddais i'm gwas Jacob, y wlad lle bu'ch hynafiaid yn byw; byddant hwy a'u plant a phlant eu plant yn byw yno am byth, a bydd fy ngwas Dafydd yn dywysog iddynt am byth.

26. Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, ac fe fydd yn gyfamod tragwyddol; sefydlaf hwy, a'u lluosogi, a gosodaf fy nghysegr yn eu mysg am byth.

27. Bydd fy nhrigfan gyda hwy; a byddaf fi'n Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi.

28. Yna, pan fydd fy nghysegr yn eu mysg am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sy'n sancteiddio Israel.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 37