Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 37:12-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Felly, proffwyda wrthynt a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af â chwi'n ôl i dir Israel.

13. Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan agoraf eich beddau a'ch codi ohonynt.

14. Rhoddaf fy ysbryd ynoch, a byddwch fyw, ac fe'ch gosodaf yn eich gwlad eich hunain. Yna byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a lefarodd, ac mai myfi a'i gwnaeth, medd yr ARGLWYDD.’ ”

15. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

16. “Fab dyn, cymer ffon ac ysgrifenna arni, ‘I Jwda ac i'r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef’; yna cymer ffon arall ac ysgrifenna arni, ‘Ffon Effraim: i Joseff a holl dŷ Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.’

17. Una hwy â'i gilydd yn un ffon, fel y dônt yn un yn dy law.

18. Pan ddywed dy bobl, ‘Oni ddywedi wrthym beth yw ystyr hyn?’

19. ateb hwy, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno â hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.’

20. Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau,

21. a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n cymryd yr Israeliaid o blith y cenhedloedd lle'r aethant; fe'u casglaf o bob man, a mynd â hwy i'w gwlad eu hunain.

22. Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 37