Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Y mae Asyria a'i holl luoedd yno,ac o'i hamgylch feddau'r lladdedigion,yr holl rai a laddwyd â'r cleddyf.

23. Y mae eu beddau yn nyfnder y pwll,ac y mae ei holl lu o amgylch ei bedd;y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y bywwedi syrthio trwy'r cleddyf.

24. Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd,i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf;y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y bywi lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig,ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

25. Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion,gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd;y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.Am iddynt achosi braw yn nhir y byw,y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.

26. Y mae Mesech a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau,y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf,am iddynt achosi braw yn nhir y byw.

27. Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig,a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel,a rhoi eu harfau dan eu pennau?Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn,oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.

28. Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.

29. Y mae Edom gyda'i brenhinoedd a'i holl dywysogion yno; er eu grym y maent gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, yn gorwedd gyda'r dienwaededig, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

30. Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

31. Pan fydd Pharo yn eu gweld bydd yn ymgysuro am ei holl finteioedd—Pharo a'i holl lu, a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32