Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:14-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Yna gwnaf eu dyfroedd yn groyw,a bydd eu hafonydd yn llifo fel olew,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15. ‘Pan wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith,a dinoethi'r wlad o'r hyn sydd ynddi;pan drawaf i lawr bawb sy'n byw ynddi,yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

16. Dyma'r alarnad a lafargenir amdani; merched y cenhedloedd fydd yn ei chanu, ac am yr Aifft a'i holl finteioedd y canant hi,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

17. Ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

18. “Fab dyn, galara am finteioedd yr Aifft, a bwrw hi i lawr, hi a merched y cenhedloedd cryfion, i'r tir isod gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

19. ‘A gei di ffafr rhagor nag eraill?Dos i lawr, a gorwedd gyda'r dienwaededig.

20. Syrthiant gyda'r rhai a leddir â'r cleddyf;tynnwyd y cleddyf, llusgir hi a'i minteioedd ymaith.

21. O ganol Sheol fe ddywed y cryfion amdani hi a'i chynorthwywyr,“Daethant i lawr a gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf.”

22. Y mae Asyria a'i holl luoedd yno,ac o'i hamgylch feddau'r lladdedigion,yr holl rai a laddwyd â'r cleddyf.

23. Y mae eu beddau yn nyfnder y pwll,ac y mae ei holl lu o amgylch ei bedd;y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y bywwedi syrthio trwy'r cleddyf.

24. Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd,i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf;y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y bywi lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig,ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

25. Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion,gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd;y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.Am iddynt achosi braw yn nhir y byw,y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.

26. Y mae Mesech a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau,y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf,am iddynt achosi braw yn nhir y byw.

27. Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig,a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel,a rhoi eu harfau dan eu pennau?Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn,oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32