Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:15-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.

16. Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.

17. Fe syrth gwŷr ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud.

18. Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod â'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir â chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud.

19. Gweithredaf farn ar yr Aifft, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

20. Ar y seithfed dydd o'r mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

21. “Fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft, ond ni rwymwyd hi i'w gwella, na'i rhoi mewn rhwymyn i'w chryfhau i ddal y cleddyf.

22. Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a thorraf ei freichiau, yr un iach a'r un sydd wedi ei thorri, a gwneud i'r cleddyf syrthio o'i law.

23. Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd.

24. Cryfhaf freichiau brenin Babilon a rhoi fy nghleddyf yn ei law, ond torraf freichiau Pharo, a bydd yn griddfan o'i flaen fel un wedi ei glwyfo i farwolaeth.

25. Atgyfnerthaf freichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau Pharo'n llipa. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac yntau'n ei ysgwyd yn erbyn gwlad yr Aifft.

26. Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30