Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 29:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. “Fab dyn, tro dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef ac yn erbyn yr Aifft gyfan.

3. Llefara a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyf yn dy erbyn, O Pharo, brenin yr Aifft,y ddraig fawr sy'n ymlusgo yng nghanol ei hafonydd,ac yn dweud, “Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth.”

4. Rhof fachau yn dy safn,a gwneud i bysgod dy afonydd lynu wrth gen dy groen;tynnaf di i fyny o ganol dy afonyddgyda'u holl bysgod yn glynu wrth gen dy groen.

5. Fe'th fwriaf i'r anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd;syrthi ar wyneb y ddaear heb dy gasglu na'th gladdu;rhof di'n fwyd i'r anifeiliaid gwylltion a'r adar.

6. Yna bydd holl drigolion yr Aifft yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, oherwydd iti fod yn ffon o frwyn i dŷ Israel.

7. Pan gydiodd yr Aifft ynot â'i law, torraist eu hysgwyddau a'u niweidio; pan bwysodd arnat, torraist ac ysigo eu llwynau.

8. Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf am ddwyn cleddyf arnat a thorri ymaith ohonot ddyn ac anifail; bydd gwlad yr Aifft yn anrhaith ac yn ddiffeithwch.

9. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. Oherwydd iti ddweud, “Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth”,

10. am hynny yr wyf yn dy erbyn ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf wlad yr Aifft yn ddiffeithwch llwyr ac yn dir anrheithiedig o Migdol hyd Aswan, hyd derfyn Ethiopia.

11. Ni throedia dyn nac anifail trwyddi, ac fe fydd yn anghyfannedd am ddeugain mlynedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 29