Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 27:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. “ ‘Pan glywir cri dy longwyr,bydd yr arfordir yn crynu.

29. Bydd yr holl rwyfwyr yn gadael eu llongau,a'r morwyr a'r llongwyr yn sefyll ar y lan,

30. yn gweiddi'n uchel ac yn wylo'n chwerw amdanat,yn rhoi llwch ar eu pennau ac yn ymdrybaeddu mewn lludw.

31. Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 27