8. Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn.
9. Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.
10. Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio â llwch; bydd dy furiau'n crynu gan sŵn y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un yn dod i ddinas wedi ei bylchu.
11. Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl â'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr.
12. Anrheithiant dy gyfoeth a chymryd dy nwyddau'n ysbail; dymchwelant dy furiau a chwalu dy dai dymunol, a lluchio'r meini, y coed a'r pridd i ganol y môr.