1. Ar ddydd cyntaf y mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Fab dyn, oherwydd i Tyrus ddweud am Jerwsalem, ‘Aha! Fe ddrylliwyd porth y cenhedloedd, ac fe'i gwnaed yn agored i mi; fe lwyddaf fi am ei bod hi'n anrheithiedig’,
3. am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn dy erbyn, O Tyrus, ac fe ddygaf lawer o genhedloedd yn dy erbyn, fel môr yn dygyfor.
4. Fe fyddant yn dinistrio muriau Tyrus ac yn bwrw i lawr ei thyrau; crafaf y pridd ohoni a'i gwneud yn graig noeth.
5. Bydd yn lle i daenu rhwydau allan yng nghanol y môr, oherwydd myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW. ‘Bydd yn anrhaith i'r cenhedloedd,
6. ac fe ddinistrir ei maestrefi trwy'r cleddyf; yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
7. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Fe ddof â Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y brenhinoedd, yn erbyn Tyrus o'r gogledd gyda meirch a cherbydau, gyda marchogion a mintai fawr yn fyddin.
8. Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn.
9. Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.