16. “Fab dyn, ag un trawiad yr wyf am gymryd oddi wrthyt yr un fwyaf dymunol yn dy olwg, ond nid wyt i alaru nac wylo na cholli dagrau.
17. Ochneidia'n ddistaw, ond paid â galaru am y marw. Cadw orchudd am dy ben a rho sandalau am dy draed; paid â gorchuddio dy enau na bwyta bwyd galar.”
18. Yr oeddwn yn siarad â'r bobl yn y bore, a chyda'r nos bu farw fy ngwraig; bore trannoeth gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi.
19. Yna dywedodd y bobl wrthyf, “Oni ddywedi beth sydd a wnelo'r pethau hyn a wnei â ni?”
20. Yna dywedais wrthynt, “Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
21. ‘Dywed wrth dŷ Israel, “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn mynd i halogi fy nghysegr, yr hwn yr wyt yn ymfalchïo yn ei gadernid, ac sydd mor ddymunol a hoff yn dy olwg. Bydd y meibion a'r merched a adawyd yn syrthio trwy'r cleddyf.
22. Fe wnewch chwi fel y gwneuthum i; ni fyddwch yn gorchuddio eich genau nac yn bwyta bwyd galar.
23. Byddwch yn cadw gorchudd am eich pennau a sandalau am eich traed, heb alaru nac wylo. Ond byddwch yn dihoeni oherwydd eich camweddau ac yn ochneidio wrth eich gilydd.
24. Bydd Eseciel yn arwydd i chwi, ac fe wnewch fel y gwnaeth ef; pan ddigwydd hyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.”
25. “ ‘Ac yn awr, fab dyn, ar y dydd pan gymeraf ymaith y gaer yr oeddent yn ymfalchïo yn ei gogoniant ac a oedd mor ddymunol a hoff yn eu golwg, a phan gymeraf eu meibion a'u merched,
26. ar y dydd hwnnw fe ddaw atat ffoadur i ddweud y newydd.
27. Y diwrnod hwnnw fe agorir dy enau; fe siaredi â'r ffoadur ac ni fyddi'n fud mwyach. Byddi'n arwydd iddynt, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”