Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 24:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar y degfed dydd o'r degfed mis yn y nawfed flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, gwna gofnod o enw'r dydd hwn, ie, yr union ddydd hwn, oherwydd heddiw y gosododd brenin Babilon warchae ar Jerwsalem.

3. Llefara ddameg wrth y tŷ gwrthryfelgar hwn, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Gosod y crochan ar y tân,ei osod a rhoi dŵr ynddo.

4. Casgl ddarnau iddo—y darnau dewisol, y goes a'r ysgwydd;llanw ef â'r gorau o'r esgyrn,

5. a chymer dy ddewis o'r praidd.Gosod y coed dano,cod ef i'r berw,a berwi'r esgyrn ynddo.

6. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd, y crochan y mae rhwd arno, rhwd nad â allan ohono! Gwagiwch ef bob yn ddarn, heb fwrw coelbren am yr un ohonynt.

7. Yr oedd y gwaed yng nghanol y ddinas wedi ei dywallt ar y graig noeth, ac nid ar y ddaear i'r llwch ei guddio.

8. Er mwyn ennyn llid a chodi dialedd, rhois innau ei gwaed ar graig noeth fel na ellir ei guddio.

9. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd! Gwnaf fi bwll tân mawr.

10. Gosod dithau ddigon o goed, cynnau'r tân, coginia'r cig, cymysga'r perlysiau, a llosger yr esgyrn.

11. Yna gosod y crochan yn wag ar y tanwydd nes iddo boethi ac i'w bres gochi, er mwyn toddi'r amhuredd a difa'r rhwd.

12. Yn ofer y blinais; nid â'r rhwd trwchus allan ohono hyd yn oed trwy dân.

13. Dy amhuredd di yw anlladrwydd; oherwydd imi geisio dy lanhau, ac na ddoit yn lân o'th amhuredd, ni fyddi'n lân eto nes i'm llid yn dy erbyn dawelu.

14. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; daeth yn amser imi weithredu. Ni fyddaf yn ymatal, nac yn tosturio nac yn trugarhau. Fe'th fernir yn ôl dy ffyrdd a'th weithredoedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

15. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

16. “Fab dyn, ag un trawiad yr wyf am gymryd oddi wrthyt yr un fwyaf dymunol yn dy olwg, ond nid wyt i alaru nac wylo na cholli dagrau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 24