Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:39-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

39. Ar y dydd pan oeddent yn aberthu eu plant i'w heilunod, aethant i mewn i'm cysegr i'w halogi. Dyna a wnaethant yn fy nhŷ.

40. Anfonasant hefyd negeswyr i gyrchu dynion o bell; a phan ddaethant, yr oeddit yn ymolchi, yn lliwio dy lygaid ac yn gwisgo dy dlysau.

41. Yr oeddit yn eistedd ar wely drudfawr, wedi gosod bwrdd o'i flaen a rhoi arno fy arogldarth a'm holew i.

42. Yr oedd sŵn tyrfa ddiofal o'i amgylch, ac fe ddygwyd y Sabeaid o'r anialwch yn ogystal â mintai o ddynion cyffredin; rhoesant freichledau ar freichiau'r merched a thorchau prydferth ar eu pennau.

43. Yna fe ddywedais am yr un oedd wedi diffygio gan buteindra, ‘Yn awr, bydded iddynt buteinio gyda hi, oherwydd putain ydyw.’

44. Aethant ati fel yr â dyn at butain; felly yr aethant at Ohola ac Oholiba, y merched anllad.

45. Ond bydd dynion cyfiawn yn eu cosbi â dedfryd puteiniaid ac â dedfryd rhai'n tywallt gwaed, oherwydd puteiniaid ydynt ac y mae gwaed ar eu dwylo.”

46. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Dewch â mintai yn eu herbyn i'w dychryn a'u hysbeilio.

47. Bydd y fintai yn eu llabyddio â cherrig, yn eu darnio â chleddyfau, yn lladd eu meibion a'u merched, ac yn llosgi eu tai â thân.

48. Rhof derfyn ar anlladrwydd yn y wlad, ac fe rybuddir pob gwraig rhag bod mor anllad â chwi.

49. Byddwch yn derbyn cosb am eich anlladrwydd a thâl am ddrygioni eich eilunaddoliad. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23