Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:32-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Fe yfi o gwpan dy chwaer,cwpan dwfn a llydan;fe fyddi'n wawd ac yn watwar,oherwydd fe ddeil lawer.

33. Fe'th lenwir â meddwdod a gofid;cwpan dinistr ac anobaithyw cwpan dy chwaer Samaria.

34. Fe'i hyfi i'r gwaelod;yna fe'i maluri'n ddarnaua rhwygo dy fronnau.’Myfi a lefarodd,” medd yr Arglwydd DDUW.

35. “Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Oherwydd iti fy anghofio a'm bwrw y tu ôl i'th gefn, bydd yn rhaid iti ddwyn cosb dy anlladrwydd a'th buteindra.’ ”

36. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, a ferni di Ohola ac Oholiba, a gosod eu ffieidd-dra o'u blaenau?

37. Oherwydd bu iddynt odinebu, ac y mae gwaed ar eu dwylo; buont yn godinebu gyda'u heilunod, ac yn aberthu'n fwyd iddynt hyd yn oed y plant a anwyd i mi ohonynt.

38. Gwnaethant hyn hefyd i mi: yr un pryd fe lygrasant fy nghysegr a halogi fy Sabothau.

39. Ar y dydd pan oeddent yn aberthu eu plant i'w heilunod, aethant i mewn i'm cysegr i'w halogi. Dyna a wnaethant yn fy nhŷ.

40. Anfonasant hefyd negeswyr i gyrchu dynion o bell; a phan ddaethant, yr oeddit yn ymolchi, yn lliwio dy lygaid ac yn gwisgo dy dlysau.

41. Yr oeddit yn eistedd ar wely drudfawr, wedi gosod bwrdd o'i flaen a rhoi arno fy arogldarth a'm holew i.

42. Yr oedd sŵn tyrfa ddiofal o'i amgylch, ac fe ddygwyd y Sabeaid o'r anialwch yn ogystal â mintai o ddynion cyffredin; rhoesant freichledau ar freichiau'r merched a thorchau prydferth ar eu pennau.

43. Yna fe ddywedais am yr un oedd wedi diffygio gan buteindra, ‘Yn awr, bydded iddynt buteinio gyda hi, oherwydd putain ydyw.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23