31. Aethost yr un ffordd â'th chwaer, a rhof ei chwpan hi yn dy law.’
32. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Fe yfi o gwpan dy chwaer,cwpan dwfn a llydan;fe fyddi'n wawd ac yn watwar,oherwydd fe ddeil lawer.
33. Fe'th lenwir â meddwdod a gofid;cwpan dinistr ac anobaithyw cwpan dy chwaer Samaria.
34. Fe'i hyfi i'r gwaelod;yna fe'i maluri'n ddarnaua rhwygo dy fronnau.’Myfi a lefarodd,” medd yr Arglwydd DDUW.
35. “Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Oherwydd iti fy anghofio a'm bwrw y tu ôl i'th gefn, bydd yn rhaid iti ddwyn cosb dy anlladrwydd a'th buteindra.’ ”
36. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, a ferni di Ohola ac Oholiba, a gosod eu ffieidd-dra o'u blaenau?