Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. “Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel.

3. Dywed wrth dir Israel, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus.

4. Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.

5. Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’

6. Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig.

7. A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

9. “Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi,a hefyd wedi ei loywi—

10. wedi ei hogi er mwyn lladd,a'i loywi i fflachio fel mellten!O fy mab, fe chwifir gwialeni ddilorni pob eilun pren!

11. Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi,yn barod i law ymaflyd ynddo;y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi,yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.’

12. Gwaedda ac uda, fab dyn,oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl,yn erbyn holl dywysogion Israel—fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl;felly trawa dy glun.

13. Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.

14. “Ac yn awr, fab dyn, proffwyda,a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd;chwifier y cleddyf ddwywaith a thair—cleddyf i ladd ydyw,cleddyf i wneud lladdfa fawr,ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch.

15. Er mwyn i'w calon doddi,ac i lawer ohonynt syrthio,yr wyf wedi gosod cleddyf dinistrwrth eu holl byrth.Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten,ac fe'i tynnir i ladd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21