Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel.

3. Dywed wrth dir Israel, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus.

4. Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.

5. Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’

6. Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig.

7. A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21