Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:28-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Pan ddeuthum â hwy i'r wlad yr oeddwn wedi tyngu y byddwn yn ei rhoi iddynt, a hwythau'n gweld bryn uchel neu bren deiliog, fe offryment aberthau yno a chyflwyno rhoddion a'm digiai; rhoddent yno eu harogldarth peraidd, a thywallt eu diodoffrwm.

29. Yna dywedais wrthynt, “Beth yw'r uchelfa hon yr ewch iddi?” A gelwir hi yn Bama hyd y dydd hwn.’

30. “Am hynny, dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ydych yn eich halogi eich hunain fel y gwnaeth eich hynafiaid, a phuteinio gyda'u heilunod atgas?

31. Pan gyflwynwch eich rhoddion, a gwneud i'ch plant fynd trwy'r tân, yr ydych yn eich halogi eich hunain â'ch holl eilunod hyd heddiw. Sut y gadawaf i chwi ymofyn â mi, dŷ Israel? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.

32. “ ‘Yr ydych yn dweud, “Byddwn fel y cenhedloedd, fel pobloedd y gwledydd, yn addoli pren a charreg”; ond yn sicr ni ddigwydd yr hyn sydd yn eich meddwl.

33. Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, llywodraethaf drosoch â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig.

34. Dof â chwi o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig.

35. Dof â chwi i anialwch y cenhedloedd a'ch barnu yno wyneb yn wyneb.

36. Fel y bernais eich hynafiaid yn anialwch gwlad yr Aifft, felly y barnaf chwithau, medd yr Arglwydd DDUW.

37. Gwnaf i chwi fynd heibio dan y wialen, a'ch dwyn i rwymyn y cyfamod.

38. Fe garthaf o'ch plith y rhai sy'n gwrthryfela ac yn codi yn f'erbyn; er imi ddod â hwy o'r wlad lle maent yn aros, eto nid ânt i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20