Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar y degfed dydd o'r pumed mis yn y seithfed flwyddyn, daeth rhai o henuriaid Israel i ymofyn â'r ARGLWYDD, ac yr oeddent yn eistedd o'm blaen.

2. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

3. “Fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel a dywed wrthynt: ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ai i ymofyn â mi y daethoch? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.’

4. A wnei di eu barnu? A wnei eu barnu, fab dyn? Pâr iddynt wybod am ffieidd-dra eu hynafiaid,

5. a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”

6. Y diwrnod hwnnw tyngais wrthynt y byddwn yn dod â hwy allan o wlad yr Aifft i'r wlad a geisiais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd.

7. Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”

8. “ ‘Ond bu iddynt wrthryfela yn f'erbyn a gwrthod gwrando arnaf; ni wnaeth yr un ohonynt fwrw ymaith y pethau atgas yr oedd eu llygaid yn syllu arnynt, na gadael eilunod yr Aifft. Bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yng ngwlad yr Aifft;

9. eto gweithredais er mwyn fy enw rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd yr oeddent yn eu mysg, a datguddiais fy hun yn eu gŵydd trwy fynd ag Israel allan o wlad yr Aifft.

10. Felly euthum â hwy allan o wlad yr Aifft a mynd â hwy i'r anialwch.

11. Rhoddais iddynt fy neddfau, a pheri iddynt wybod fy marnau; pwy bynnag a'u gwna, bydd fyw trwyddynt.

12. Rhoddais iddynt hefyd fy Sabothau yn arwydd rhyngom, er mwyn iddynt wybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yn eu sancteiddio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20