Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 2:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. ac yn dweud wrthyf, “Fab dyn, saf ar dy draed, ac fe siaradaf â thi.”

2. Ac fel yr oedd yn siarad â mi, daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a gwrandewais arno'n siarad â mi.

3. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u hynafiaid wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw.

4. At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’

5. Prun bynnag a wrandawant ai peidio—oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt—fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg.

6. A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

7. Ond llefara di fy ngeiriau wrthynt, p'run bynnag a wrandawant ai peidio, oherwydd gwrthryfelwyr ydynt.

8. “Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 2