Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 19:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Tynasant ef i gawell â bachau,a mynd ag ef at frenin Babilon;rhoddwyd ef mewn carchar,fel na chlywyd ei sŵn mwyachar fynyddoedd Israel.

10. “ ‘Yr oedd dy fam fel gwinwydden mewn gwinllan,wedi ei phlannu yn ymyl dyfroedd;yr oedd yn ffrwythlon a brigogam fod digon o ddŵr.

11. Yr oedd ei changhennau yn gryfion,yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr.Tyfodd yn uchel iawn,uwchlaw'r prysgwydd;yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchdera nifer ei changau.

12. Ond fe'i diwreiddiwyd mewn dicter,fe'i bwriwyd hi i'r llawr;deifiodd gwynt y dwyrain hi,dinoethwyd hi o'i ffrwythau;gwywodd ei changau cryfion,ac yswyd hwy gan dân.

13. Yn awr, y mae wedi ei thrawsblannu mewn diffeithwch,mewn tir cras a sychedig.

14. Lledodd tân o un o'i changhennauac ysu ei blagur;ni adawyd arni yr un gangen gref,yn addas i deyrnwialen llywodraethwr.’Galarnad yw hon, ac y mae i'w defnyddio'n alarnad.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 19